GWYBODAETH AM BRIFYSGOL CAERDYDD

Gwirionedd, Undod a Chytgord | Truth, Unity and Concord

Agorodd y Brifysgol ei drysau am y tro cyntaf ar Hydref 1883, ac fe’i sefydlwyd yn ffurfiol drwy Siarter Brenhinol ym 1884. Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy oedd ei henw gwreiddiol, ac yn dilyn sawl uniad, Prifysgol Caerdydd oedd yr enw cyhoeddus a roddwyd iddi ym 1999. Ym mis Rhagfyr 2004, cymeradwyodd y Cyfrin Gyngor Siarter Atodol newydd oedd yn rhoi statws prifysgol, a newidiodd yr enw cyfreithiol o Brifysgol Cymru i Brifysgol Caerdydd.

 

Mae'r brifysgol yn hynod weithgar ym maes ymchwil gydag amrywiaeth o feysydd sy'n rhagorol ar lwyfan rhyngwladol. Mae’r rhain yn cynnwys y Ganolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd a agorwyd gan Frenhines EM yn 2016, Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Genomeg a Geneteg Niwroseiciatrig, Sefydliad Catalyddion Caerdydd ac ar hyn o bryd mae'n adeiladu Parc Gwyddoniaeth Cymdeithasol o’r enw sbarc | spark, y cyntaf yn y byd i Gymru. Mae hefyd yn gartref i'r Sefydliad Archwilio Disgyrchiant. Mae hwn yn rhan o bartneriaeth gwyddonol Arsyllfa Tonnau Disgyrchiant Ymyriadur Laser (LIGO) a gyhoeddodd y darganfyddiad cyntaf o donnau disgyrchiant yn 2015  Canolfan Ymchwil Ryngwladol y Morwyr a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD).

 

Mae gan Brifysgol Caerdydd wreiddiau dwfn yn y gymuned leol, ac mae'n ymgysylltu'n rhagweithiol â'r cyhoedd yn gyffredinol er mwyn helpu i wella iechyd, cyfoeth a lles yng Nghymru, ar draws y DU ac o amgylch y byd gyda phrosiectau fel Porth Cymunedol (Grangetown, Caerdydd) a Phrosiect Phoeniz (Namibia).

Main-Building_BlueSky_GreenGrass.jpg