GAIR AM GAERDYDD

Dechreuodd Caerdydd gyda thŵr Normanaidd yna ddaeth yn dref fach cyn tyfu’n ddinas fawr (1905) o ganlyniad i’r porthladd oedd yn cludo glo. Yna daeth yn brifddinas Cymru (1955) ac mae wedi parhau i dyfu a chwarae rhan ganolog yng Nghymru.  Llofnodwyd y siec gyntaf am £1miliwn punt yng Nghyfnewidfa Glo Caerdydd am lo, sef ‘Aur du’ y cyfnod, ym 1909. Ar un adeg pennwyd pris glo'r byd yma.

 

Mae Caerdydd yn gartref i Senedd Cymru ac mae meysydd datganoledig yn cynnwys iechyd, addysg, datblygiad economaidd, trafnidiaeth, yr amgylchedd, amaethyddiaeth, llywodraeth leol a rhai trethi. Mae'n sefydliad dwyieithog, gyda'r Gymraeg a'r Saesneg yn ieithoedd swyddogol.

 

Mae chwaraeon yn chwarae rhan bwysig yn hunaniaeth Cymru ac mae amrywiaeth eang o leoliadau chwaraeon yng Nghaerdydd. Mae’r rhain yn cynnwys Stadiwm Principality, cartref Undeb Rygbi Cymru; Parc yr Arfau Caerdydd, cartref Gleision Caerdydd a Chlwb Rygbi Caerdydd; Gerddi Sophia, cartref Clwb Criced Morgannwg; Arena Iâ Cymru, cartref tîm hoci iâ Cardiff Devils ac mae Clwb Athletau Amatur Caerdydd yn cyfarfod yn Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd.

 

Disgrifir Cymru yn aml fel gwlad y gân ac mae'r ddinas wedi bod yn gartref i ystod eang o artistiaid poblogaidd gan gynnwys Ivor Novello, Shirley Bassey, a'r Super Fury Animals. Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio’n rheolaidd yng Nghanolfan Mileniwm eiconig Cymru ym Mae Caerdydd sy'n agos at Yr Eglwys Norwyaidd lle bedyddiwyd Roald Dahl. Ganed Jason Mohammed a John Humphreys, y cyflwynwyr radio a theledu, yng Nghaerdydd.

Credyd Delwedd: Canolfan Mileniwm Cymru | Canolfan Mileniwm Cymru (c) CroesoCaerdydd

Wales Millennium Centre (c) Visit Cardif